13/12/2012 - Cynigion heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w trafod yn y Dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Rhagfyr 2012

NNDM5124 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â chaniatâd cynllunio tybiedig ar gyfer cydsyniadau i gynhyrchu o dan adrannau 36 a 37 o Ddeddf Trydan 1989, sydd wedi cael eu dwyn ymlaen yn y Bil Twf a Seilwaith, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/growthandinfrastructure/documents.html