Cynigion a Gwelliannau i'w trafod ar 14 Gorffennaf 2015
Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Mehefin 2015
NDM5798 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 23 Mehefin 2015.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cynigion a gyflwynwyd ar 7 Gorffennaf 2015
NDM5813 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2015.
NDM5814 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)
Gosodwyd Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 23 Chwefror 2015.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 3 Gorffennaf 2015.
NDM5815 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.