Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 14 Hydref 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 07 Hydref 2009
Dadl Fer
NDM4298 Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Busnes - Cyfrifoldeb Masnachol Cyn Elw
NDM4297 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu strategaeth gydgysylltiedig i fynd i’r afael â phob math o drais yn erbyn menywod.
NDM4299 Janice Gregory (Ogmore)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant i Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin 2009.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros Dreftadaeth yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Hydref 2009
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 9 Hydref 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4297
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Llywodraeth Cynulliad Cymru:
1. Yn croesawu’r ymgynghoriad a ddaeth i ben yn ddiweddar gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ddatblygu Cynllun Gweithredu Strategol i fynd i’r afael â thrais domestig a phob math o drais yn erbyn menywod.
2. Yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ymateb yn gadarnhaol i’r safbwyntiau a fynegwyd ac i ddatblygu strategaeth integredig i fynd i’r afael â phob math o drais yn erbyn menywod yn ogystal â thrais domestig.
Gellir defnyddio’r ddolen isod i weld yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ar ddatblygu Cynllun Gweithredu Strategol i fynd i’r afael â thrais domestig a phob math o drais yn erbyn menywod:
http://wales.gov.uk/consultations/housingcommunity/vaw/?skip=1&lang=cy