15/01/2013 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 15 Ionawr 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 6 Tachwedd 2012

NDM5088 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Trosedd a Llysoedd sy’n diwygio adran 33(B) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 sy’n ymwneud â maint y digollediad y caiff llysoedd ynadon ei orchymyn mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod a geir mewn perthynas â chostau glanhau gwastraff a ollyngir, a drinnir neu a waredir yn anghyfreithlon, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2012 yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 29.2(iii).

I weld copi o’r Bil ewch i:

http://services.parliament.uk/bills/2012-13/crimeandcourts/documents.html

Cynigion a gyflwynwyd ar 8 Ionawr 2013

NDM5132 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr effaith bositif y mae caffael cyhoeddus effeithiol yn ei chael ar economi Cymru;

2. Yn nodi Datganiad Polisi Caffael Cymru; a

3. Yn annog holl gyrff cyhoeddus Cymru i feithrin y gallu sy’n ofynnol i wneud y gorau o Bolisi Caffael Cymru.

Gellir dod o hyd i Ddatganiad Polisi Caffael Cymru yn:

http://wales.gov.uk/docs//cabinetstatements/2012/121206procurementpolicycy.doc

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 10 Ionawr 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5132

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) roi gwybod yn glir i gymuned fusnes Cymru am unrhyw bolisïau caffael newydd; a

b) adolygu ei pholisïau caffael yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol.

2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

'ac yn cydnabod y camau sylweddol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un'

3. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod rheolau caffael cyhoeddus yr UE yn rhy gaeth, ac y dylid eu llacio er mwyn cynorthwyo busnesau lleol i gael mwy o gontractau gan y Llywodraeth.

4. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhwymedigaeth orfodol ar bob corff cyhoeddus i weithredu Polisi Caffael Cymru.

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosesau caffael yn fwy agored i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, er enghraifft drwy ddadfwndelu contractau ar gyfer gwaith y Llywodraeth.

6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y cwmnïau yng Nghymru sy'n ennill contractau caffael cyhoeddus yng Nghymru.