Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod yn y dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 15 Mai 2014
NNDM5514
Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd sy’n cyflwyno gofyniad i gael caniatâd yr Uchel Lys cyn y ceir herio dilysrwydd amrywiol orchmynion, camau, cynlluniau a dogfennau strategol eraill sy’n ymwneud â chynllunio, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o'r Bil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd i'w weld yma:
Bil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd - 2013-14 - Senedd y DU