Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 15 Mehefin 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 08 Mehefin 2010
NDM4493 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r gostyngiad yn lefelau troseddu yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hynny am gyfnod hir; ac
2. Yn cydnabod cyfraniad cyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer lleihau troseddu ac ar gyfer gweithgareddau i ddiogelu cymunedau, yn ogystal â’r cynnydd cyffredinol yn y cyllid oddi wrth y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cynulliad Cymru ers 1999, yn y gwaith o sicrhau’r gostyngiad hwn.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 10 Mehefin 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4493
1. Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu’r cynnydd yn nifer y digwyddiadau o ‘drais yn erbyn y person’ er 1998/99, ac yn nodi â phryder y dystiolaeth mai ychydig iawn o ffydd sydd gan y cyhoedd mewn ystadegau troseddu swyddogol.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd swyddogion heddlu mewn lleihau troseddu ac yn gresynu bod dros 200 yn llai o swyddogion heddlu yng Nghymru o'i gymharu â 2006.