Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 15 Mehefin 2011
Cynigion a gyflwynwyd ar 08 Mehefin 2011
NDM4732 Rosemary Butler (Casnewydd Gorllewin)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheol Sefydlog 23.
NDM4733 Rosemary Butler (Casnewydd Gorllewin)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Offerynnau Statudol i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 ac i ystyried unrhyw faterion eraill yn ymwneud â deddfwriaeth, ar wahân i’r swyddogaethau angenrheidiol yn ôl Rheol Sefydlog 26, a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.
NDM4734 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen lywodraethu lawn a manwl ar gyfer tymor 5 mlynedd nesaf y Cynulliad.
NDM4735 Nick Ramsay (Sir Fynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn adroddiad y Comisiynydd Pobl Hyn “Gofal gydag Urddas?”
Mae copi o Gofal gydag Urddas ar gael yn:
http://www.olderpeoplewales.com/wl/Reviews/dignity-and-respect/Hospital-review.aspx
NDM4736 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pob dewis a fydd yn helpu i adeiladu economi gref i Gymru, gan gynnwys:
(a) Cyflwyno Parthau Menter, a
(b) Adeiladu ar gyhoeddiad ‘Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwy’ drwy gyflwyno proses Ariannu drwy Gynyddrannau Treth er mwyn i awdurdodau lleol allu ariannu prosiectau adnewyddu mawr drwy fenthyg yn erbyn yr incwm a grëir gan yr adnewyddu hwnnw yn y dyfodol.
Mae copi o ‘Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwy’ ar gael drwy’r ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/planning/planningresearch/publishedresearch/suseconrenewal/?skip=1&lang=cy
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 09 Mehefin 2011
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4736
1. Nick Ramsay (Sir Fynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog Llywodraeth Cymru i neilltuo symiau canlyniadol Fformiwla Barnett, a fydd yn deillio o greu Parthau Menter yn Lloegr, i’r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.
2. Nick Ramsay (Sir Fynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad am ddyfodol Rhaglen Adnewyddu’r Economi.
Gellir gweld copi o ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd’ yn:
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 10 Mehefin 2011
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4734
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ar ôl ‘tymor 5 mlynedd nesaf y Cynulliad’, ychwanegu ‘a rhoi cyfle i'r Cynulliad drafod y rhaglen’.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd, gan gynnwys manylion canlyniadau y gellir eu mesur, er mwyn dangos y cynnydd a wneir wrth roi ei rhaglen gyflenwi ar waith.
NDM4736
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 1:
ceisio datganoli pwerau dros dreth gorfforaeth ac amrywio treth er mwyn galluogi’r llywodraeth i fynd i’r afael â phroblemau strwythurol economi Cymru;
parhau i weithredu Rhaglen Adnewyddu’r Economi: Cyfeiriad Newydd.
Gellir gweld copi o ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd’ yn: