Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 15 Gorffennaf 2008
Cynigion a gyflwynwyd ar 08 Gorffennaf 2008
NDM3990
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:
Yn cymeradwyo Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol a Meysydd Eraill) 2008.
Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 08 Gorffennaf 2008;
Gosodwyd adroddiadau'r Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Plant sy’n Agored i Niwed gerbron y Cynulliad ar 25 Ionawr 2008 a 14 Mai 2008.
Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Mehefin 2008
NDM3976
Andrew Davies (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.21, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2007-2008, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Cwnsler Cyffredinol ar dydd Mawrth, 24 Mehefin 2008.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol a gynhwysir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 27, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunir arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrennir ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys â'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau a amcangyfrifir i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).