Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 15 Gorffennaf 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 8 Gorffennaf 2009
Dadl Fer
NDM4262 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Rhagdybiaeth yn Erbyn Cloddio Glo Brig yng Nghymru?
NDM4267 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.16(ii), yn cytuno na ddylai Gorchymyn arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Priffyrdd a Thrafnidiaeth) 2009 gael ei ystyried yn fanwl gan bwyllgor.
NDM4268 Mick Bates (Montgomeryshire)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Lleihau allyriadau carbon wrth gynhyrchu
ynni: Pedwerydd adroddiad ar ymchwiliad y Pwyllgor Cynaliadwyedd i leihau allyriadau
carbon yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mai 2009
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2009.
NDM4269 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r anawsterau ariannol a gweithredol sy’n wynebu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar hyn o bryd
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i geisio:
• Darparu sicrwydd a sefydlogrwydd ariannol ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
• Cyflwyno ceisiadau cyfalaf i roi buddsoddiad mewn adnoddau gweithredol a seilwaith ar y trywydd cyflym.
• Adolygu nifer y gwelyau acíwt yn y lleoliadau prysuraf i helpu i leihau amseroedd aros ambiwlansys
• Datblygu gwasanaethau brysbennu ffôn effeithiol ledled Cymru
• Neilltuo darpariaeth ambiwlans gwledig.
NDM4270 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1) Yn nodi â phryder efallai nad oes gan seilwaith ffyrdd Cymru y buddsoddiad cyfalaf angenrheidiol y mae ei angen arno i gwrdd ag anghenion strategol economi sy’n adfer o ddirwasgiad.
2) Yn credu ei bod yn rhaid datblygu a chynnal cefnffyrdd rhwng y dwyrain a’r gorllewin fel blaenoriaeth allweddol os yw economi Cymru am wella ei safle GYC yng nghyswllt gweddill y DU.
3) Yn gresynu wrth yr oedi a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog o ran datblygu llwybrau prifwythiennol allweddol.
NDM4271 Jeff Cuthbert (Caerphilly)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cymeradwyo Cod Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar wahanol rolau a chyfrifoldebau Aelodau etholaeth ac Aelodau rhanbarthol - drafftiwyd gan y Pwyllgor ar Safonau Ymddygiad yn unol â Rheol Sefydlog 1.13 ac fe'i osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2009.
Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 9 Gorffennaf 2009
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i Gynigion:
NDM4270
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 1, dileu ‘ffyrdd’ a rhoi ‘trafnidiaeth’ yn ei le.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 2, dileu ‘cefnffyrdd’ a rhoi ‘seilwaith trafnidiaeth’ yn ei le.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 10 Gorffennaf 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4269
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
“Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymryd camau i sicrhau bod niferoedd digonol o ambiwlansys â staff ar ddyletswydd i wella amseroedd ymateb a gofal i gleifion.”
2. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
“Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ailystyried sut y mesurir perfformiad Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.”
3. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
“Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fuddsoddi mewn technoleg newydd a fydd yn fodd i Wasanaeth Ambiwlans Cymru wella'i berfformiad.”
4. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
“Yn gresynu at y gostyngiad yn nifer y gwelyau sydd ar gael ac yn nodi’r pwysau y mae hyn yn eu rhoi ar y Gwasanaeth Ambiwlans a'r adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.”
5. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
1. Yn nodi’r anawsterau ymarferol y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi’u hwynebu,
2. Yn cydnabod y camau a gymerwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i
(a) helpu i recriwtio cymaint o weithwyr ag a ganiateir ar lefel weithredol ac uwch,
(b) sicrhau arbenigedd anweithredol ychwanegol,
(c) sefydlu gwaith partneriaeth agos i leihau oedi cyn trosglwyddo cleifion.
NDM4270
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu’r cyfan a rhoi’r canlynol yn ei le:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
1. Yn croesawu cyhoeddi’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ddydd Mercher, 15 Gorffennaf,
2. Yn credu bod y cynllun yn sicrhau’r cydbwysedd cywir o gynlluniau trafnidiaeth integredig ar gyfer economi Cymru,
3. Yn cadarnhau nad yw’r Llywodraeth Cynulliad hon wedi gohirio’r gwaith o ddatblygu llwybrau prifwythiennol allweddo.