Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 15 Hydref 2013
Cynigion a gyflwynwyd ar 8 Hydref 2013
NDM5326 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiynydd Pobl Hyn ar gyfer 2012/13, y gosodwyd copi ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Medi 2013.
NDM5327 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adolygiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ‘Cydweithio i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru’.
Gellir gweld copi o’r adroddiad drwy'r ddolen a ganlyn:
http://www.equalityhumanrights.com/uploaded_files/Welsh/wales_review_2013_welsh.pdf
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 9 Hydref 2013
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5326
1. Elin Jones
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal cam-drin pobl hyn a mynd i’r afael â hyn, boed hwnnw'n gam-drin corfforol, emosiynol, seicolegol neu ariannol.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 10 Hydref 2013
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5327
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella safon ac argaeledd gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i annog dioddefwyr troseddau casineb a cham-drin domestig i roi gwybod am ddigwyddiadau o’r fath.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ffyrdd o sicrhau bod aelodaeth byrddau’r sector cyhoeddus yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethir ganddynt yn fwy cywir.
4. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau i fynd i’r afael â stereoteipio ar sail rhyw mewn cyfleoedd gwaith o bob math.