16/04/2008 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 15 Ebrill 2008

Cynigion a gyflwynwyd ar 8 Ebrill 2008

Short Debate

NDM3908

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Tlodi Plant: Cysyniad ynteu Realiti?

NDM3909

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno bod Llywodraeth y Cynulliad yn anghywir i ailstrwythuro’r GIG yn 22 Bwrdd Iechyd Lleol.

NDM3910

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod bod angen cymryd camau ynghylch achosion ac effeithiau ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghymru.

NDM3911

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gresynu ei bod yn annhebygol y caiff dyheadau’r Cyfnod Sylfaen eu cyflawni oherwydd cyllido a chynllunio annigonol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 11 Ebrill 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM3909

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn credu mai cryfder y system gyfredol yw bod byrddau iechyd lleol yn rhannu’r un ffiniau ag adrannau gwasanaethau cymdeithasol, sy’n hwyluso cydweithrediad ac yn atal oedi wrth drosglwyddo gofal.

2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn credu bod yn rhaid i unrhyw beth a fydd yn disodli’r trefniant cyfredol gynnal cysylltiadau cryf gydag awdurdodau lleol.

3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn credu, gyda’r cynigion cyfredol ar gyfer ad-drefnu, y byddai unrhyw Fwrdd Iechyd ar gyfer Cymru yn arwain at ganoli sylweddol a chanolbwyntio pwer yn nwylo’r Gweinidog.

4. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn credu, gyda’r cynigion cyfredol ar gyfer ad-drefnu, y dylid sefydlu unrhyw Fwrdd Iechyd ar gyfer Cymru hyd braich o Lywodraeth Cynulliad Cymru.

5. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yn rhaid i unrhyw strwythur a ddaw yn ei le gynnwys llais cryf ar gyfer cleifion a chlinigwyr.

6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod cyfnod o gostau ariannol sylweddol a newid mawr yn dilyn pob ad-drefnu.

NDM3910

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn condemnio penderfyniad y Swyddfa Gartref i roi’r gorau i gyllido’r gwasanaeth 101 llwyddiannus.

2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu’n gallu chwarae rhan gyfannol o ran mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i edrych ar ffyrdd o ddarparu cefnogaeth ariannol i’r ardaloedd hynny y mae angen Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol arnynt fwyaf.

3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu mai diflastod sy’n gyrru nifer o bobl ifanc i ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymchwilio i ffyrdd o weithio gydag awdurdodau lleol i gynyddu'r cyfleusterau sydd ar gael i bobl ifanc.