Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 16 Mai 2012
Cynigion a gyflwynwyd ar 9 Mai 2012
Dadl Fer
NDM4987 Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Tîm Prydain Fawr: Cyfle Euraid.
A’r Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal ar yr ynysoedd hyn dros yr haf, mae’r ddadl fer hon yn ceisio cyflwyno’r ddadl chwaraeon, economaidd a diwylliannol o blaid caniatáu i bêl-droedwyr o Gymru gael bod yn rhan o Garfan Bêl-droed Tîm Prydain Fawr am y tro hwn yn unig.
NDM4986 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y sialensiau sy’n wynebu’r sectorau amaethyddiaeth a choedwigaeth a’u gwerth i economi Cymru;
2. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflawni polisïau costeffeithiol i gefnogi’r diwydiannau gwledig hyn; ac
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymgysylltu’n adeiladol â rhanddeiliaid y diwydiant;
b) gwella tryloywder ei pholisïau; ac
c) sicrhau bod ei pholisïau’n cyflawni gwerth am arian ac nad ydynt yn tanseilio swyddi gwledig yn y sector preifat.
NDM4984 Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).
Gosodwyd Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 30 Ionawr 2012.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) gerbron y Cynulliad ar 4 Mai 2012.
NDM4985 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-12 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Mai 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad y canfuwyd methiant i gydymffurfio ac y dylid ceryddu Keith Davies AC.
Cynigion a gyflwynwyd ar 26 Mawrth 2012
NDM4955 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Mick Antoniw gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 16 Mawrth o dan Reol Sefydlog 26.90.
Mae’r wybodaeth cyn y balot ar gael drwy fynd i:
http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill_040.htm
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 11 Mai 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4986
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw gweithredu’r cynllun Glastir wedi adlewyrchu pryderon y sector coedwigaeth yn ddigonol.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
sicrhau bod y sector coedwigaeth yn cael ei gynrychioli'n ddigonol ar y lefel uchaf mewn unrhyw un corff amgylcheddol newydd.