Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 16 Mehefin 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 9 Mehefin 2009
NDM4239 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
I cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu strategaeth Coetiroedd i Gymru Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn cefnogi ei chyfarwyddyd a’i gweledigaeth i gynyddu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol drwy reoli coetiroedd a choed mewn ffordd gynaliadwy.
Mae’r strategaeth Coetiroedd i Gymru ar gael trwy’r ddolen ganlynol: http://www.forestry.gov.uk/forestry/INFD-7GDE8V
NDM4240 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod pwysigrwydd hawliau darlledu'r prif ddigwyddiadau chwaraeon i Gymru, fel sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd gan Adolygiad Digwyddiadau Darlledu- am- Ddim Llywodraeth ei Mawrhydi.
Gellir cael copïau o'r ddogfen ymgynghori yma:
http://www.culture.gov.uk/freetoair/Consultation/introduction.html
Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 11 Mehefin 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4239
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig;
‘Yn cydnabod cyfraniad chwaraeon gwledig i reoli coedwigaeth Cymru.’