16/07/2014 - Cynnig a Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 05/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/08/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 16 Gorffennaf 2014

Cynigion a gyflwynwyd ar 8 Gorffennaf 2014

NDM5556 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2014.

Cynigion a gyflwynwyd ar 9 Gorffennaf 2014

Dadl Fer

NDM5559 Eluned Parrott (Canol De Cymru): Chwarae teg? Amser i ymgynghori ar daliadau comisiwn tecach wrth werthu cartrefi mewn parciau.

Bydd y ddadl yn canolbwyntio ar y taliadau comisiwn sy’n daladwy i berchnogion safleoedd pan fo perchnogion cartrefi mewn parciau yn gwerthu eu heiddo.

NDM5557 David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar argaeledd gwasanaethau bariatrig, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2014.

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2014.

NDM5558 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Cyllid Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2014.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2014.