Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 16 Medi 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 10 Mehefin 2014
NDM5525 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio, sy'n ymwneud â Phedolwyr a Chytundebau cartref-ysgol i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir cael copi o'r Bil Dadreoleiddio yma:
Dogfennau'r Bil – Bil Dadreoleiddio [HC] 2013-14 – Senedd y DU
Cynigion a gyflwynwyd ar 9 Medi 2014
NDM5561 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2014.
Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Medi 2014
NDM5566 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid yn lle Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig).
Cynigion a gyflwynwyd ar 15 Medi 2014
NDM5567 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jane Hutt (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Busnes yn lle Lesley Griffiths (Llafur).