16/11/2010 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 16 Tachwedd 2010

Cynigion a gyflwynwyd ar 09 Tachwedd  2010

NDM4585 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn croesawu adroddiad Comisiynydd Pobl Hyn 2009/10 y cafodd copi ohono ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2010.

NDM4586 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus effeithiol wrth ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ac yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gymdeithas deg sydd wedi'i hadeiladu ar sylfeini cadarn cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal;

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gresynu bod llywodraeth y DU yn diystyru canlyniadau'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yng Nghymru ar y rhai hynny sy'n derbyn ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus o'r fath.

NDM4587 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu wrth yr effaith y byddai'r newidiadau y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu cyflwyno i fudd-daliadau yn ei chael ar y bobl dlotaf yng Nghymru;

2.  Yn cymeradwyo'r gwaith y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud wrth gydweithio â sefydliadau eraill er mwyn helpu i ddiwallu anghenion pobl am dai.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 16 Tachwedd 2010

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4586

1. Nick Ramsay (Mynwy)

Ym mhwynt 1 dileu:

"ac yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gymdeithas deg sydd wedi'i hadeiladu ar sylfeini cadarn cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal".  

2. Nick Ramsay (Mynwy)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod y bydd y newidiadau sy'n cael eu cynnig yn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant gan Lywodraeth y DU yn gwella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cefnogaeth dychwelyd i waith.

3. Nick Ramsay (Mynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cynulliad Cymru i adeiladu cymdeithas deg.

NDM4587

1. Nick Ramsay (Mynwy)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1) Yn nodi newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i fudd-dal tai a'r angen am system decach;

2) Yn cymeradwyo gwaith y Sector Tai yng Nghymru, ac yn gresynu wrth raddfa'r problemau tai yng Nghymru a achoswyd gan bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru er 1999.    

2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi addewid maniffesto etholiad 2010 y blaid Lafur y byddai Budd-dal Tai yn cael ei ddiwygio i sicrhau nad ydym yn rhoi cymhorthdal sy'n caniatáu i bobl fyw yn y sector preifat am rent na allai teuluoedd arferol sy'n gweithio mo'i fforddio.

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod methiant Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyrraedd ei thargedau i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn sylweddol yn rhoi straen ychwanegol ar farchnadoedd tai cymdeithasol a fforddiadwy.