Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 17 Ebrill 2013
Cynigion a gyflwynwyd ar 10 Ebrill 2013
Dadl Fer
NDM5203 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Why not Dilnot?
Talu am ofal cymdeithasol i’r henoed yng Nghymru.
NDM5202 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) adolygu'r rheolau caffael mewn llywodraeth leol i'w gwneud yn haws i gwmnïau a busnesau lleol gynnig am waith a gwasanaethau a darparu cyrsiau hyfforddi i swyddogion caffael mewn awdurdodau lleol;
b) gweithio gydag awdurdodau lleol i ddenu cyfleoedd cyflogaeth newydd a sicrhau cymaint o gyflogaeth leol â phosibl pan fydd prosiectau seilwaith mawr ar y gweill; ac
c) darparu rhagor o adnoddau i awdurdodau lleol gynnal a chadw eu rhwydwaith ffyrdd mewn cyflwr da.
NDM5204 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod y system gyllido ar gyfer gofal hirdymor yn y DU wedi bod yn annigonol, yn annheg ac yn anghynaliadwy yn rhy hir ac yn croesawu cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer ei diwygio.
2. Yn cydnabod na fu erioed cymaint o frys o ran yr angen i sicrhau system gynaliadwy i dalu am ofal yng Nghymru, gan nodi gyda phryder:
a) y bydd angen rhywfaint o ofal a chymorth ar dros wyth o bob deg o bobl 65 oed neu hŷn yn ddiweddarach yn eu bywydau ac y rhagamcanir y bydd nifer y bobl yng Nghymru sy'n 65 oed a hŷn wedi dyblu erbyn 2035;
b) yr amcangyfrifir bod dros 17,000 o bobl â dementia yng Nghymru ar hyn o bryd a rhagwelir y bydd y ffigur hwn yn cynyddu 31y cant dros yr 20 mlynedd nesaf;
c) bod un o bob tri o bobl, yn ôl ymchwil ar ddefnyddwyr gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain, yn credu bod ‘gofal i’w gael am ddim fel y mae’r GIG’ ac nad oes diben cynllunio ar gyfer costau gofal hirdymor yn y dyfodol;
d) y bydd un o bob deg o deuluoedd yn wynebu costau gofal o £100,000 neu fwy yn ystod eu hoes, fel yr amlygwyd gan Gomisiwn Dilnot.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r egwyddorion allweddol a fydd yn sail i system newydd o gyllido gofal yng Nghymru a chadarnhau'r cyllid canlyniadol Barnett a fydd yn deillio o'r cyhoeddiad ar gyllido gofal cymdeithasol yn Adolygiad o Wariant 2013.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio argymhellion Comisiwn Dilnot fel sail ar gyfer diwygio cyllid gofal cymdeithasol yng Nghymru ar frys, gan gynnwys:
a) sicrhau bod pobl wedi'u diogelu rhag costau uchel eu gofal cymdeithasol;
b) cyflwyno cynllun â chost wedi'i chapio ac ymestyn trothwy'r profion modd;
c) ymestyn y cynllun taliadau gohiriedig i bob un y mae'n ofynnol iddo dalu am ofal preswyl;
d) cyflwyno Fframwaith Cymhwysedd Cenedlaethol i wella cysondeb y cymorth;
e) sicrhau bod y rhai a ddaw’n oedolion ac sydd ag angen gofal a chymorth eisoes yn gymwys i gael cymorth am ddim gan y wladwriaeth i ddiwallu eu hanghenion gofal;
f) gwella argaeledd a hygyrchedd gwybodaeth a chymorth i bobl ddeall eu hopsiynau a pharatoi a chynllunio am gostau gofal.
Gellir gweld argymhellion Comisiwn Dilnot drwy fynd i:
http://www.ilis.co.uk/uploaded_files/dilnott_report_the_future_of_funding_social_care_july_2011.pdf
NDM5205 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn Lloegr rewi'r dreth gyngor am y drydedd flwyddyn yn olynol.
2. Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth yr Alban wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn yr Alban rewi'r dreth gyngor ar gyfer 2013/2014; a bod y rhewi hwnnw wedi bod ar waith ers 2008/2009.
3. Yn credu bod rheidrwydd moesol ar awdurdodau lleol i wario arian cyhoeddus gyda gofal a doethineb; gan sicrhau bod cyfraddau'r dreth gyngor mor isel â phosibl i breswylwyr.
4. Yn gresynu at wrthodiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddefnyddio cyllid canlyniadol i gynorthwyo awdurdodau lleol i rewi'r dreth gyngor ledled Cymru; gan roi cymunedau o dan anfantais o'u cymharu â'r rhai yn Lloegr a'r Alban.
5. Yn gresynu ymhellach bod biliau'r dreth gyngor yng Nghymru wedi cynyddu 148 y cant ers 1997/1998, ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r fath wedi rhoi pwysau diangen ar aelwydydd sydd o dan bwysau.
NDM5206 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i bolisi morol yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2013.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ebrill 2013.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 11 Ebrill 2013
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5204
1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘yn rhy hir’.
2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
‘Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Sefydlu atebion interim tecach i ffioedd gofal cymdeithasol, sy’n adlewyrchu anghenion Cymru, o fewn yr adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd.
b) Sicrhau bod y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud darpariaeth ariannol ddigonol ar gyfer cynnal teuluoedd a gofalwyr anffurfiol eraill yn y tymor hir.
c) Sicrhau bod modd cyllido gofal cymdeithasol yn gynaliadwy, ac yn credu y byddai sefydlu fformiwla cyllido gyda Llywodraeth y DU sy’n adlewyrchu anghenion Cymru yn helpu i ddarparu’r adnoddau sy’n angenrheidiol i gyflawni hyn.’
Mae’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i’w weld drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=5664
NDM5205
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn credu mai awdurdodau lleol ddylai benderfynu ar lefelau gwariant awdurdodau lleol a'r dreth gyngor, fel rhan o agenda lleoliaeth gynhwysfawr.
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu nad yw'r dreth gyngor yn system drethiant gynyddol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio a allai pwerau newydd sydd wedi’u cynnig gan Gomisiwn Silk ei galluogi i ddatblygu system drethiant decach i gyllido gwariant awdurdodau lleol.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 12 Ebrill 2013
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5202
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
‘cyflwyno deddfwriaeth i ddatblygu economïau lleol drwy roi pwerau ychwanegol i awdurdodau lleol adfywio canol trefi, ysgogi creu swyddi yn lleol a chaniatáu i awdurdodau lleol gadw rhywfaint o’r arian a ddaw o ardrethi busnes er mwyn ysgogi twf economaidd.’
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu 'ffyrdd’ yn is-bwynt c) a rhoi ‘trafnidiaeth’ yn ei le
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
‘amlinellu ei ymrwymiad i gefnogi busnesau lleol i gynnig am gontractau llywodraeth leol;’
4. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt b):
‘gan sicrhau bod y sector preifat lleol, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn cymryd rhan lawn yn y broses hon’
5. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt c):
‘a sicrhau bod ei phrosiectau rhwydwaith ffyrdd ei hun yn dangos yr arfer gorau i awdurdodau lleol, gan osgoi gorwario diangen a sicrhau gwerth am arian’
NDM5204
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
‘Yn cydnabod methiant Llywodraethau dilynol y Cynulliad o ran darparu cymorth teg a fforddiadwy i bobl agored i niwed ag anghenion gofal cymdeithasol.’