17/06/2015 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/06/2015

​Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 17 Mehefin 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 10 Mehefin 2015

Dadl Fer

NDM5783 Nick Ramsay (Mynwy)

Clefydau'r croen: Blaenoriaethu anghenion pobl yng Nghymru sydd â chlefydau sy'n effeithio ar y croen

 

NDM5786

Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 2, 13 a 17 mewn perthynas â Chofrestru a Datgan Buddiannau'r Aelodau a Rheolau Sefydlog 17 a 22 mewn perthynas ag Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2015; ac

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i:

a) adolygu Rheolau Sefydlog 17 a 22 fel y nodir yn Atodiad D i adroddiad y Pwyllgor Busnes, i ddod i rym ar unwaith; ac i

b) adolygu Rheolau Sefydlog 2, 13 ac 17 fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes, i ddod i rym ar 1 Medi 2015.

 

NDM5784 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan weithredu o dan Reolau Sefydlog 22.2(ii) a 22.2 (iii):

1. Yn cymeradwyo'r Canllawiau i Aelodau'r Cynulliad ar Gofrestru, Datgan a Chofnodi Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2015;

2. Yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2015; ac

3. Yn cytuno y bydd y rhain yn dod i rym ar 1 Medi 2015.

 

NDM5785 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod dros 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ac y rhagwelir y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu 31 y cant erbyn 2021.

2. Yn cydnabod mesurau a weithredwyd gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn gofal dementia a'i wella.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i feysydd o arfer gorau o ran gofal dementia o bob rhan o'r DU a thu hwnt er mwyn gwella cyfraddau diagnosis dementia a mynediad at wybodaeth a chefnogaeth briodol.

 

NDM5787 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraethu da ac arweinyddiaeth effeithiol yn y GIG yng Nghymru a'r angen am atebolrwydd i'r cyhoedd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sefydlu comisiynwyr iechyd a etholir yn uniongyrchol fel ffordd o gyflawni hyn yn mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru.

 

NDM5788 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu darparu'n effeithlon ac yn effeithiol ac yn cwrdd ag anghenion dinasyddion Cymru.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 11 Mehefin 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5788

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hagenda i ddiwygio llywodraeth leol yn arwain at fwy o dryloywder ac atebolrwydd democrataidd o fewn llywodraeth leol.​

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 12 Mehefin 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5785

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ystâd y GIG mor gyfeillgar â phosibl i bobl sydd â dementia ac i'w gwneud yn ofynnol bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn cael hyfforddiant gorfodol mewn ymwybyddiaeth dementia a gofal dementia.

2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod y cyllid newydd o ychydig dros £5.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

3. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff yn y GIG yn cael hyfforddiant priodol mewn gofal i gleifion â dementia.

NDM5787

1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 2.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cynrychiolaeth a etholir yn ddemocrataidd ar fyrddau iechyd fel ffordd o gyflawni hyn.

3. Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 2.

NDM5788

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2:

"ac yn credu y dylai hyn gynnwys cyflwyno'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol."