Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 18 Ionawr 2011
Cynigion a gyflwynwyd ar 11 Ionawr 2011
NDM4629 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.6:
Yn nodi’r gyllideb ddrafft ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2011-2012 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb ar 17 Tachwedd 2010.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 13 Ionawr 2011
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4629
1. Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ailddrafftio’r gyllideb hon, ac ailddyrannu cronfeydd er mwyn amddiffyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn termau real dros y tair blynedd nesaf.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wyro arian o feysydd sydd â blaenoriaeth isel i dalu am gyflwyno Premiwm Disgybl.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wyro arian o feysydd sydd â blaenoriaeth isel i dalu am sefydlu Cronfa Arloesi i ysgogi arloesedd economaidd ac i ddatblygu'r economi wybodaeth.
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fynd ati ar unwaith i ymchwilio i honiadau o wario aneffeithiol yn y GIG ac i ddargyfeirio cyllid o'r meysydd hynny lle na ddefnyddiwyd y gwariant yn effeithiol a'i fuddsoddi mewn gofal cleifion.