Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 18 Chwefror 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 11 Chwefror 2014
NDM5434 Lelsey Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnydd Llywodraeth Cymru hyd yma o safbwynt ei Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol ynghyd â'r camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad ar "dyfodol ein gorffennol".
I weld y Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol dilynwch y ddolen ganlynol:
I weld yr ymgynghoriad "Dyfodol ein Gorffennol" dilynwch y ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/consultations/cultureandsport/heritage-bill/?skip=1&lang=cy
NDM5435 Lelsey Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2014-2015 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr Heddlu a Throseddau) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2014.
NDM5436 Lelsey Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Memorandwm Llywodraeth Cymru ar y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Ionawr 2014.
Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Chwefror 2014
NDM5440 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:
(i) Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle William Graham (Ceidwadwyr Cymreig);
(ii) Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle William Graham (Ceidwadwyr Cymreig); a
(iii) William Graham (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o, ac yn Gadeirydd i, y Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig).
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 13 Chwefror 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5434
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen ag uno Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a CADW.
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi tystiolaeth yn rheolaidd o effaith polisïau treftadaeth ar leihau tlodi yng Nghymru.
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r newyddion diweddaraf am y gwaith a wnaed i greu Cynghrair Treftadaeth i Gymru neu ymddiriedolaeth cadwraeth treftadaeth genedlaethol.
4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad statudol bod awdurdodau lleol yn llunio rhestr leol o adeiladau sy’n cael eu hystyried yn asedau hanesyddol yn eu hardaloedd drwy unrhyw Fil Treftadaeth yn y dyfodol, ac i ddarparu canllawiau a pholisïau enghreifftiol ar gyfer eu cynlluniau datblygu lleol i ategu hyn.
5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu categori ar gyfer rhestru adeiladau sy’n dangos agweddau pwysig ar hanes cymdeithasol, economaidd, diwylliannol neu filwrol lleol.