18/06/2008 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 18 Mehefin 2008

Cynigion a gyflwynwyd ar 11 Mehefin 2008

Dadl Fer

NDM3961 Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Ledled Gogledd Cymru?

NDM3959

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn mynegi pryder ynghylch y cynnydd graddol yn nifer y disgyblion sy’n cael eu gwahardd dros dro o ysgolion ledled Cymru; a

2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i;

a) cynyddu’r cyfleoedd ar gyfer cymwysterau galwedigaethol er mwyn rhoi sylw i’r problemau ymddygiad a ddangosir gan y disgyblion hynny na allant gymryd rhan mewn astudiaethau sy’n hollol academaidd;

b) cefnogi ysgolion a rhieni i adnabod disgyblion sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig yn fuan gan fod methu gwneud hynny’n aml yn gallu arwain at broblemau ymddygiad,

c) darparu cefnogaeth well i rieni ac i athrawon er mwyn eu galluogi i ddelio â disgyblion sydd â phroblemau ymddygiad,

d) rhoi’r rhyddid a’r gefnogaeth i ysgolion er mwyn mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag ymddygiad disgyblion unigol,

e) nodi argymhellion Adroddiad yr Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb gan yr Athro Ken Reid a chyflwyno i’r Cynulliad gynllun gweithredu ar y cyfle cyntaf.

Mar Adroddiad yr Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

h

ttp://new.wales.gov.uk/topics/educationandskills/educationskillsnews/2233523/?lang=cy

NDM3960

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1) Yn gresynu wrth yr achlysuron cyffredin a mynych o gleifion yn cael eu heintio o ganlyniad uniongyrchol i gael gofal iechyd yng Nghymru ac yn cydnabod hawl pob claf yng Nghymru i ddisgwyl triniaeth GIG heb i’w hiechyd fod mewn perygl;

2) Yn cydnabod bod rhywfaint o gynnydd da wedi cael ei wneud gan ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru o ran ceisio mynd i’r afael â phroblem heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd;

3) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i flaenoriaethu rheoli C-difficile a heintiau eraill sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yn ysbytai Cymru drwy;

a) sicrhau bod yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio yn ysbytai Cymru wedi cael eu hyfforddi’n briodol ac yn llawn o ran mesurau i reoli heintiau;
b) sicrhau bod rheoli haint C-difficile ynghyd â heintiau eraill sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, yn dod yn ddangosydd perfformiad allweddol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru; a
c) sicrhau bod gweithlu digonol o lanhawyr sydd â sgiliau priodol sydd dan reolaeth uniongyrchol prif nyrs ward.

NDM3962

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod y sector Addysg Bellach yng Nghymru wedi cael toriad termau real mewn cyllid ar gyfer 2008/09.

2. Yn credu y caiff y toriad hwn effaith andwyol ar y sector.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i asesu a yw’r lefel hwn o gyllid yn ddigonol i ddarparu strategaeth sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 13 Mehefin 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM3959

1. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1 “tra’n nodi bod gwaharddiadau parhaol wedi disgyn yn y flwyddyn olaf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer”

2. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ym mhwynt 2 d) yn lle “rhyddid” rhoi “modd”

NDM3960

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Yn credu bod lefelau uchel o ddefnydd gwlâu yn ymwneud ag un o’r achosion difrifol ac enbyd dros heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd.

2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

delio â’r argyfwng mewn defnydd gwlâu drwy flaenoriaethu cyllid yn ofalus yn y GIG

3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

cyflwyno canllawiau ynghylch gwisgoedd a dillad ysbytai, gan gynnwys dychwelyd at olchdy a chyfleusterau newid ar y safle yn ogystal â darparu mwy o wisgoedd.

4. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu pwynt 1 ac ailrifo’r pwyntiau bwled.

5. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Yn pwynt 3b) yn lle”dod yn ddangosydd perfformiad allweddol”, rhoi “parhau i fod yn flaenoriaeth”

6. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Yn pwynt 3c) rhoi “croesawu gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru i” o flaen “sicrhau bod”

7. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r ffaith fod contractau glanhau, lle bo modd, wedi dod yn ôl i mewn i’r GIG ac y byddant yn arwain at wella safonau yn y tymor hir.

NDM3962

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn cydnabod y swyddogaeth y mae’r Sector Addysg Bellach yn ei chwarae o ran codi sgiliau’r gweithlu a lleihau lefelau anweithgarwch economaidd yng Nghymru.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn mynegi pryder yr amcangyfrifir, o ganlyniad uniongyrchol i doriadau cyllido, y bydd yn rhaid i bymtheg o golegau gau cyrsiau ac yr effeithir ar hyd at 2,400 o ddysgwyr amser llawn a rhan amser.

3. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ym mhwynt 1 dileu popeth ar ôl “cael” ac yn ei le rhoi:

“cynnydd o 1.45yc yng nghyllideb 2008/09, gan gymryd cyfanswm y buddsoddiad blynyddol yn y sector i £386m”

4. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu pwynt 2 ac yn ei le rhoi:

"Yn cymeradwyo penderfyniad y Llywodraeth i ddiogelu adnoddau addysgu a hyfforddiant o dan setliad ariannol tynn ac yn cefnogi gweithredu’r strategaeth Sgiliau a Dysgu.”

5. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu pwynt 3