Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 18 Gorffennaf 2012
Cynigion a gyflwynwyd ar 11 Gorffennaf 2012
Dadl Fer
NDM5044 Aled Roberts (Gogledd Cymru): Dyslecsia ac Ysgolion: Cydweithio i Wneud Gwahaniaeth.
Mae angen cefnogaeth ar holl ddisgyblion Cymru i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, ac mae’n hanfodol bod pobl ifanc sydd â dyslecsia yn gallu cael yr asesiadau, yr ymyriadau a’r cymorth ychwanegol priodol y bydd eu hangen arnynt yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Mae’r ffordd y mae athrawon yn defnyddio eu sgiliau, eu dulliau a’u cymwyseddau gyda phobl ifanc sydd â dyslecsia yn hollbwysig a gall wneud byd o wahaniaeth i gyfleoedd bywyd plentyn.
NDM5043
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Nid oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hyder yn y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
NDM5041 Ann Jones (Dyffryn Clwyd):
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Nodi adroddiad grwp gorchwyl a gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ragolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mai 2012.
Er gwybodaeth, gosodwyd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf 2012.
NDM5042 Nick Ramsay (Mynwy):
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Dylanwadu ar y broses o Foderneiddio Polisi Caffael yr Undeb Ewropeaidd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012.
Yn nodi: Ymateb y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty i’r adroddiad a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf 2012.