18/09/2013 - Cynigion heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Medi 2013

NNDM5303 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried darpariaethau'r Bil Dwr fel y'i cyflwynwyd yn Nhy'r Cyffredin ar 27 Mehefin 2013, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Medi 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:

Bill documents – Water Bill [HC] 2013-14 – UK Parliament