Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 18 Tachwedd 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 11 Tachwedd 2014
NDM5617 Edwina Hart (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud â chymorth allforio, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Cewch gopi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html
NDM5618 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2013-14.
Gellir gweld Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2013-14 drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.complantcymru.org.uk/cy/adroddiad-blynyddol-2014/
NDM5619 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-2016 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar 30 Medi 2014.
Mae Cynigion Cyllideb Ddrafft 2015-16 ar gael ar y ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/funding/budget/draft-budget-2015-16/?lang=cy
NDM5620 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2014.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 13 Tachwedd 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5619
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015/16 yn diwallu anghenion pobl Cymru.
2. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod:
a) y Gyllideb Ddrafft yn methu ag ymgymryd â dull gweithredu Cymru gyfan mewn perthynas â buddsoddi cyfalaf at y dyfodol;
b) y symiau a fuddsoddir mewn mesurau integreiddio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael eu torri, ac y bydd hyn yn arwain at fwy o bwysau ariannol ar y GIG yn y dyfodol;
c) dull gweithredu annoeth mewn perthynas â buddsoddi mewn sgiliau wedi arwain at ostyngiad yn nifer y prentisiaethau sydd ar gael, a gallai hyn arwain at ddirywiad pellach mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc.