Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 19 Chwefror 2008
Cynigion a Gyflwynwyd ar 12 Chwefror 2008
NDM3862
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2008 mewn perthynas â’r gorchymyn drafft, Gorchymyn Bwrdd Ardollau Cymru 2008; a2. Yn cymeradwyo bod y gorchymyn drafft, Gorchymyn Bwrdd Ardollau Cymru 2008, yn cael ei wneud yn unol ag:
a) y drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2007; a
b) y Memorandwm Esboniadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2007.
NDM3863
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
O’r farn y dylai Cymru fod ar flaen y gad yn fyd-eang o ran trosglwyddo i gynhyrchu ynni carbon isel, ac i’r perwyl hwnnw y dylai ddatblygu i’r eithaf ei hadnoddau sylweddol o ynni adnewyddadwy, yn ogystal â dangos arweiniad wrth gyflawni gwelliannau effeithlonrwydd ynni o bwys.
NDM3864
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988:
Yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2008-2009 (Setliad Terfynol - yr Heddlu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a anfonwyd at Aelodau’r Cynulliad drwy’r e-bost ddydd Mawrth 12 Chwefror 2008.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 14 Chwefror 2008
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3863
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
1) Yn mynegi pryder na fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyrraedd ei dargedau ei hun ar ynni adnewyddadwy a lleihau allyriadau carbon deuocsid.
2) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu strategaethau mwy cadarn i gyrraedd y targedau hyn.