Cynigion a Gyflwynwyd ar 19 Chwefror 2008
NDM3870 Andrew Davies (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.21, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2007-2008, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Chwefror 2008 gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddydd Mawrth 19 Chwefror 2008.
Troednodyn:
Yn
unol â'r darpariaethau perthnasol a gynhwysir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 27, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
i.
y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) Deddf Llywodraeth Cymru;
ii.
yr adnoddau y cytunir arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
iii.
cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrennir ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys â'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
iv.
cysoniad rhwng y symiau a amcangyfrifir i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
v.
cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) y Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Bydd
y wybodaeth ychwanegol ganlynol yn cael ei ddarparu i’r Aelodau:
copïau o dablau manwl sy’n dangos y dyraniadau i linellau gwariant y gyllideb a’r prif grwpiau gwariant
nodyn yn esbonio’r prif newidiadau o gynlluniau cynharach