Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 19 Chwefror 2013
Cynigion a gyflwynwyd ar 5 Rhagfyr 2012
NDM5120 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Ynni sy’n ymwneud â sefydlu safonau perfformiad ynghylch allyriadau i osod terfynau ar faint o garbon deuocsid y gall gorsaf bwer tanwydd ffosil newydd (h.y. un sy’n cael ei phweru gan lo, olew neu nwy “naturiol”) ei ollwng yn ystod unrhyw flwyddyn benodol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/energy.html
Cynigion a gyflwynwyd ar 21 Rhagfyr 2012
NDM5126 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Mordwyo Morol (Rhif 2), sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Peilota 1987, Deddf Harbyrau 1964 a Deddf Llongau Masnach 1995, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/marinenavigationno2.html
Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Chwefror 2013
NDM5163 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2013-2014 (Setliad Terfynol – Awdurdodau Heddlu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2013.