19/05/2009 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 19 Mai 2009

Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Mai 2009

NDM4214 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2009 mewn perthynas â’r gorchymyn drafft, Rheoliadau Gwaith Stryd (Taliadau am Feddiannaeth a Ymestynnir yn Afresymol ar y Briffordd) (Cymru) 2009; a 2. Yn cymeradwyo bod y gorchymyn drafft, Rheoliadau Gwaith Stryd (Taliadau am Feddiannaeth a Ymestynnir yn Afresymol ar y Briffordd) (Cymru) 2009, yn cael ei wneud yn unol ag:

a) y drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ebrill 2009; a

b) y Memorandwm Esboniadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno 22 Ebrill 2009.

NDM4215 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  30 Ebrill 2009 mewn perthynas â’r gorchymyn drafft, Rheoliadau Cynlluniau Trwyddedau Rheoli Traffig (Cymru) 2009; a 2. Yn cymeradwyo bod y gorchymyn drafft, Rheoliadau Cynlluniau Trwyddedau Rheoli Traffig (Cymru) 2009, yn cael ei wneud yn unol ag:

a) y drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ebrill 2009; a

b) y Memorandwm Esboniadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ebrill 2009.

NDM4216 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Wastraff Genedlaethol ddiwygiedig, Tuag at Ddyfodol Diwastraff.  

Mae’r ddogfen i’w gweld ar y dolenni canlynol:  

h

ttp://wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/wastestrategy/?skip=1&lang=cy

Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 14 Mai 2009

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4216

1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y diffyg tybiaethau ariannol yn y ddogfen ymgynghori, gan y cydnabyddir bod tybiaethau ariannol cadarn yn hanfodol ar gyfer dadl gyhoeddus onest.

2. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Dileu “croesawu” a rhoi “nodi” yn ei le.

3. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

“Yn nodi â phryder yr effaith a gaiff y gostyngiadau arfaethedig mewn gwariant cyhoeddus ar alluogi pob sector yng Nghymru i gyrraedd targed Llywodraeth Cynulliad Cymru i fod yn ailgylchu 70% o’u gwastraff erbyn 2025.”

4. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i egluro’r costau sy’n gysylltiedig â chyflawni ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’.