Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 19 Mai 2015
Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Mai 2015
NDM5760 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bill Llywodraeth Leol (Cymru).
Gosodwyd Bil Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 26 Ionawr 2015.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Bil Llywodraeth Loeol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 5 Mai 2015.
NDM5761 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
NDM5762 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Cynllunio (Cymru).