19/11/2008 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwellianau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 19 Tachwedd 2008

Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Tachwedd 2008

Dadl Fer

NDM4058 Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru):

Helpu’r rheini sy’n agored i niwed y gaeaf hwn

NDM4059

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r swyddogaeth allweddol y bydd Awdurdodau Lleol yn ei chwarae yn ystod y dirwasgiad; ac

2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i edrych ar ffyrdd o reoli pwysau ar gyllid llywodraeth leol er mwyn lleihau codiadau treth gyngor a chaniatáu ar gyfer mwy o wariant cyfalaf.

NDM4060

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi â chryn bryder y cynnydd chwarterol dramatig mewn diweithdra yn y DU ac mai Cymru a ddioddefodd y cynnydd mwyaf o blith yr holl wledydd a rhanbarthau; ac

2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynhyrchu mentrau allweddol cyn gynted ag sy’n bosibl, megis y strategaeth gweithgynhyrchu.

Cynigion a gyflwynwyd ar 28 Hydref 2008

NNDM4043

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.103: Yn caniatáu i Alun Cairns gyflwyno Mesur a gynigiwyd gan Aelod er mwyn gweithredu’r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 9 Hydref 2008 dan Reol Sefydlog 23.102. Gellir gweld y wybodaeth cyn y balot trwy ymweld â’r ddolen ganlynol: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislative-ballots/business-measures-ballot-26-06-07/mb-34.htm

Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 14 Tachwedd 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4059

1. Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)

Ym mhwynt 2 dileu popeth ar ôl ”i” a rhoi yn ei le “barhau i weithio gyda Llywodraeth Leol er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r cyllid i’w galluogi i reoli’r pwysau sydd arnynt hwy ac ar eu cymunedau lleol.”

2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Dileu popeth ar ôl “Lywodraeth Cynulliad Cymru” a rhoi yn ei le “i sicrhau bod cynghorau lleol yn cael digon o gyllid fel nad oes yn rhaid iddynt godi’r dreth gyngor”.

NDM4060

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau, lle ceir bygythiad y collir swyddi, bod cyfleoedd hyfforddi’n cael eu cynnig fel dewis yn hytrach na diweithdra.

2. Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le bwynt 2 newydd

2. Yn cymeradwyo’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru hyd yma, yn arbennig ymgynnull y ddwy uwchgynhadledd economaidd, ac yn edrych ymlaen at ystyried cynigion pellach gan y llywodraeth cyn hir.