20/01/2016 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 13/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/01/2016

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 20 Ionawr 2016

Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Ionawr 2016

Dadl Fer

NDM5924 Lynne Neagle (Torfaen): Strategaeth genedlaethol ar ddementia i Gymru - ymateb i her iechyd ein hamser.

NDM5922 David Melding (Canol De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Deddfu yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Hydref 2015.

Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2016.

Gosodwyd ymateb Comisiwn y Cynulliad i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2016.

NDM5920 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi canfyddiadau'r adroddiad interim ar yr Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr, sy'n datgan nad yw'r system bresennol yn gynaliadwy, gan adleisio galwadau gan Brifysgolion Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Undeb y Colegau a Phrifysgolion;

2. Yn cydnabod, fel y nodwyd yn yr adroddiad interim, fod angen i Lywodraeth Cymru "ailystyried y polisi grant ffioedd dysgu" yng Nghymru; a

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailfodelu cyllid addysg uwch yng Nghymru, gan weithredu polisi mwy cynaliadwy a chynnig mwy o flaenoriaeth i system gynyddol o gefnogi costau byw.

Adolygiad o Gyllido Addysg Uwch a Threfniadau Cyllid Myfyrwyr yng Nghymru

NDM5923 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod cymunedau ledled Cymru wedi cael eu difrodi gan lifogydd dros yr wythnosau diwethaf ac yn talu teyrnged i waith pob un o'r rhai sydd wedi rhoi cefnogaeth hanfodol i'r cymunedau hynny;

2. Yn cydnabod pwysigrwydd gwaith ymgysylltu trylwyr, cydweithredol â rhanddeiliaid ledled Cymru i ddatblygu strategaeth atal llifogydd gadarn; a

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pendant ar unwaith i gefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt, gan gynnwys:

a) archwilio i hyfywedd darparu rhyddhad ardrethi i'r busnesau yr effeithiwyd arnynt;

b) adolygu sut y mae'r Asiantaeth Cefnffyrdd yn ymateb i amodau tywydd gwael, gan asesu yn enwedig sut y rheolir yr A55 mewn perthynas â llifogydd;

c) darparu rhyddid ychwanegol i ffermwyr a thirfeddianwyr ymgymryd ag unrhyw waith angenrheidiol i glirio ffosydd, draeniau a sianeli amaethyddol; a

d) asesu sut y gall y rhaglen datblygu gwledig gefnogi cynlluniau atal llifogydd yn well i gymunedau yr effeithir arnynt gan lifogydd.

Y Rhaglen Datblygu Gwledig

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 14 Ionawr 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5920

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi adroddiad polisi Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o 2013, 'Fairness and Freedom in Higher Education', sy'n galw am grant cymorth byw i fyfyrwyr, er mwyn symud ffocws cymorth y llywodraeth o ryddhad o ddyledion ffioedd dysgu i gefnogaeth ar gyfer costau byw, fel ffordd decach a mwy effeithiol o sicrhau nad yw cyllid yn rhwystr i addysg uwch.

Fairness and Freedom in Higher Education

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi adroddiad polisi Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, 'Punt yn Eich Poced', a ganfu bod 58 y cant o fyfyrwyr poeni'n rheolaidd am beidio â chael digon o arian i gwrdd â'u costau byw sylfaenol fel rhent neu biliau cyfleustodau.

Punt yn Eich Poced

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ar ddiwedd pwynt 3, mewnosoder:

'fel drwy gyflwyno grant cymorth byw i fyfyrwyr.'

NDM5923

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i wneud cais am gyllid gydsefyll yr UE ar gyfer rhyddhad llifogydd.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri cymorth ar gyfer prosiectau ynni glân, sy'n bygwth ein gallu i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn cynyddu'r risg o amodau tywydd eithafol a llifogydd yn y dyfodol.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys isbwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

Hyrwyddo cynlluniau i liniaru'r perygl o lifogydd drwy reoli tir mewn modd arloesol, gan gynnwys drwy blannu coed a llystyfiant i arafu dŵr ffo, adfer gwlyptiroedd a chreu cronfeydd llifogydd diogel.

4. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r canllawiau cynllunio o ran datblygu ar dir sy'n dueddol i gael llifogydd.

5. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy o ddefnydd o'r amgylchedd naturiol wrth reoli risg llifogydd.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 15 Ionawr 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5920

1. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn condemnio'r toriad difrifol i gyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru  yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-2017, sy'n dod o ganlyniad uniongyrchol i bolisi ffioedd cyfredol Llywodraeth Cymru. Yn credu bod hyn yn debygol o arwain at doriadau niweidiol mewn cymorth i fyfyrwyr rhan-amser, ymchwil, pynciau cost uchel a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

NDM5923

2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Ar ddechrau isbwynt 3c), mewnosoder:

'adolygu'r dystiolaeth ar gyfer'