20/02/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 20 Chwefror 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Chwefror 2013

Dadl Fer

NDM5168 Lynne Neagle (Tor-faen): Lleddfu’r Ergyd

Lliniaru Effaith y Dreth Ystafelloedd Gwely yng Nghymru

NDM5165 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2012.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Chwefror 2013.

NDM5166 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2012.

NDM5167 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Stats Cymru yn amcangyfrif bod 31,644 o gartrefi gwag yng Nghymru, gyda 23,287 wedi’u dosbarthu fel anheddau gwag tymor hir.

2. Yn croesawu bwriad cynllun ‘Troi Tai’n Gartrefi’ Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y £5 miliwn ychwanegol a fuddsoddir yn y cynllun o ganlyniad i’r fargen ar y gyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn 2012-13.

3. Yn croesawu’r cynnydd o ran lleihau nifer y cartrefi gwag yng Nghymru 2,000, ond yn credu bod angen gwneud rhagor i ddatblygu strategaeth tai gwag gydlynol, sy’n cynnwys:

a) creu gwefan Cartrefi Gwag Cymru i rannu cyngor a chyfarwyddyd ac i godi proffil y cynllun cartrefi gwag;

b) Swyddog Cartrefi Gwag cyfwerth ag amser llawn ym mhob awdurdod lleol i fynd â'r cynllun rhagddo;

c) symleiddio’r ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag a Gorchmynion Prynu Gorfodol;

d) diweddaru canllawiau arfer da cartrefi gwag i awdurdodau lleol;

e) rhoi rhagor o hyblygrwydd i gynghorau osod cyfraddau’r dreth gyngor cosbol ar gartrefi gwag tymor hir;

f) hybu rhannu enghreifftiau o’r arfer gorau a hwyluso gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol; ac

g) edrych ar gynllun cymhellion i gynghorau lleol ar gyfer pob cartref sector preifat tymor hir sy’n cael ei ddefnyddio unwaith eto, yn debyg i gynllun ‘New Homes Bonus Scheme’ Llywodraeth y DU.

Ceir gwybodaeth am y cynllun Troi Tai’n Gartrefi drwy fynd i:

http://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/private/emptyhomes/housestohomes/?skip=1&lang=cy

Ceir gwybodaeth am y New Homes Bonus Scheme drwy fynd i:

https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/6004/1846530.pdf

https://www.gov.uk/government/policies/increasing-the-number-of-available-homes/supporting-pages/new-homes-bonus

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 14 Chwefror 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5167

1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod cartrefi gwag yn cynnig cyfle i adfywio tai sy'n rhoi hwb bwysig i'r economi.

2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

‘ac y gellid defnyddio eiddo o'r fath i liniaru ar yr angen nas diwallwyd am dai cymdeithasol'

3. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

‘lobïo Llywodraeth y DU i ostwng TAW ar atgyweirio a gwneud gwelliannau i gartrefi i 5%.’

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 15 Chwefror 2013

NDM5167

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt 3b:

‘gan gydnabod bod gan bob cartref gwag ei stori ei hun ac mai’r hyn sy’n bwysig yw bod Swyddogion Cartrefi Gwag yn deall pam ei fod yn wag, ac yn gweithio’n agos gyda’r perchennog i ddechrau ei ddefnyddio eto’

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt 3e:

‘drwy greu premiwm treth gyngor cartrefi gwag ar gyfer eiddo sy’n cael ei adael yn wag am dros ddwy flynedd, er mwyn bod yn sensitif i amgylchiadau unigol – fel perchnogion sydd wedi cael profedigaeth neu berchnogion â phroblemau cymhleth y byddai modd, gyda chefnogaeth, ceisio’u datrys’

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

‘sicrhau bod cyllid ar gael i grwpiau cymunedol a gwirfoddol fel rhan o raglen i ddechrau defnyddio eiddo gwag eto fel tai fforddiadwy;’

4. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

‘caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio eiddo sy’n cael ei ariannu o dan y fenter ‘Troi Tai’n Gartrefi’, er mwyn sicrhau cymaint o fudd â phosibl i’r rheini sydd mewn angen o ran tai;’