20/03/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 20 Mawrth 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Mawrth 2013

NDM5194 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi methiant llwyr a chyson Llywodraeth Cymru i sicrhau gwelliannau ym mywydau pobl Cymru, yn benodol ei:

a) anallu i ddatblygu economi Cymru;

b) methiant i gau bylchau cyrhaeddiad allweddol mewn addysg;

c) perfformiad gwael o ran cyrraedd targedau amseroedd aros ac ymateb y GIG; a

d) aneffeithiolrwydd wrth fynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd tlodi.

NDM5195 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth uwch i agenda lleoliaeth yng Nghymru; gan sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn elwa o fwy o benderfyniadau a grymuso lleol.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 15 Mawrth 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5194

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu popeth ar ôl ‘pobl Cymru,’ a rhoi yn ei le ‘ac yn galw arni i wneud iawn am ei:

a) anallu i ddatblygu economi Cymru drwy ddatblygu ystod lawn o wasanaethau er mwyn i fusnesau allu cael gafael ar gredyd, cyngor busnes a chymorth marchnata, a ddarperir o un pwynt cyswllt;

b) methiant i gau bylchau cyrhaeddiad allweddol mewn addysg drwy gynyddu gwerth y premiwm disgybl a sicrhau ei fod yn cael ei wario’n effeithiol ar leihau’r bwlch rhwng tlodi a chyrhaeddiad;

c) perfformiad gwael o ran cyrraedd targedau amseroedd aros ac ymateb y GIG drwy sicrhau gwariant effeithiol ar wasanaethau rheng flaen y GIG; a

d) aneffeithiolrwydd wrth fynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd tlodi drwy roi sylw i effaith yr ystod lawn o wasanaethau cyhoeddus gwael ar wreiddio tlodi ac anghydraddoldeb ac adrodd yn rheolaidd i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ei chynnydd.’

NDM5195

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd modd gwella penderfyniadau a grymuso lleol yn sylweddol drwy:

a) cyflwyno’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau cynghorau lleol;

b) caniatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol; ac

c) datganoli plismona i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod plismona’n gallu ymateb i anghenion cymunedau lleol.