20/04/2010 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 20 Ebrill 2010

Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Mawrth 2010

NDM4450

Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii)(b) sy’n codi o ganlyniad iddi.

Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Ebrill 2010

NDM4454 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008 (Cyfyngiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mawrth 2010

NDM4455 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r cynnydd yn erbyn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Cymru o ran mynd i’r afael ag allgáu ariannol a chynyddu gallu ariannol.

Gallwch weld Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Cymru drwy fynd i’r ddolen hon - http://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/regeneration/publications/fistrategy/?skip=1&lang=cy

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 15 Ebrill 2010

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4455

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig;

Yn gresynu bod anghydraddoldeb incwm wedi cyrraedd y lefelau uchaf ers dechrau cadw cofnodion ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i flaenoriaethu gweithio gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, y sector gwirfoddol a darparwyr addysg i gyflawni’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol.