Cyhoeddwyd 07/06/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014
Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 20 Mehefin 2007
Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Mehefin 2007
Dadl Fer
NDM3619 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yr Angen am Ysbyty Llwynhelyg
NDM3616
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod angen annog busnesau ledled Cymru i fuddsoddi er mwyn ehangu, creu rhagor o swyddi ac adeiladu economi gref; ac
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella ac ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau ar y cyfle cyntaf er mwyn symud ymlaen i gyflawni’r nod hwn.
NDM3617
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i:
a) Llunio rhaglen weithredu er mwyn gostwng gollyngiadau cyfwerth-carbon blynyddol 3% y flwyddyn erbyn 2011 a chreu corff annibynnol i fonitro cynnydd y Llywodraeth;
b) Cyhoeddi a gweithredu Strategaeth Ynni Adnewyddadwy gyda’r nod o gyflawni targed ynni adnewyddadwy o 20% erbyn 2015, gyda mwy o bwys ar amrywiaeth y technolegau sydd ar gael;
c) Adolygu’r canllaw cynllunio TAN8 i sicrhau ei fod yn hyrwyddo’r amrediad llawn o ffynonellau ynni adnewyddadwy.
Mae TAN8 ar gael trwy’r ddolen ganlynol:
http://new.wales.gov.uk/about/departments/dsrd/epcpublications/PlanPubs/TAN/TAN8?lang=en
NDM3618
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sefydlu comisiwn annibynnol i ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â phwerau ariannol a chyllido Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 15 Mehefin 2007
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3617
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i ddiwylliant a’r amgylchedd busnes fodoli yng Nghymru i hybu a hwyluso buddsoddiad mewn technolegau adnewyddadwy.
2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt c):
Ac yn creu dull ar sail meini prawf ar gyfer ystyried ceisiadau cynllunio ynni adnewyddadwy.
3. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Ceisio cael penderfyniadau cynllunio ar brosiectau ynni dros 50 MwH wedi'u datganoli.
4. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Datblygu cymhellion ar gyfer ynni adnewyddadwy morol oddi ar arfordir Gorllewin Cymru.
5. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Lansio cynllun arbed ynni a fydd yn darparu grantiau microgynhyrchu ac effeithlonrwydd ynni ac yn hybu arbed ynni.
NDM3616
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y cyfraniad y gall gostyngiad a dargedir yn y cyfraddau busnes ei wneud i annog busnesau i wella'u cyfraniadau amgylcheddol a chymdeithasol, ac yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i geisio pwerau i alluogi cyflwyno gostyngiadau wedi’u targedu o’r fath.
NDM3618
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Dileu “ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sefydlu" ac yn lle hynny rhoi "am sefydlu".