Cynigion a Gwelliannau i’w trafod yn y Dyfodol
Cynnig heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd ar 20 Medi 2011
NNDM4808 Carl Sargeant (Alyn and Deeside)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ogystal â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642, NNDM4722 ac NNDM4785, y darpariaethau ychwanegol hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth ynghylch Rhagdybiaethau Cynllunio Gorchmynion Prynu Gorfodol, Sail 16 Atodlen 2 Deddf Tai 1985 ac Asedau ag iddynt Werth Cymunedol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld copi o’r
Mesur Seneddol Lleoliaeth i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html