Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 20 Hydref 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Hydref 2009
NDM4300 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2009 mewn perthynas â’r gorchymyn drafft, Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009; a 2. Yn cymeradwyo bod y gorchymyn drafft, Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009, yn cael ei wneud yn unol ag:a) y drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2009; a
b) y Memorandwm Esboniadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2009
NDM4302 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod Cartrefi mewn Parciau'n gwneud cyfraniad gwerthfawr at ddiwallu'r angen am dai yng Nghymru; a
2. Yn cytuno bod rheoli a thrwyddedu safleoedd yn effeithiol yn bwysig i breswylwyr a gweithredwyr y safleoedd hynny.
Cynigion a gyflwynwyd ar 14 Gorfennaf 2009
NDM4272 Andrew Davies (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.21, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2009-10, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus a ddydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2009.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 27, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii)
yr adnoddau y cytun
wyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb floc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyr
annwyd ar gyfer cyllideb
floc Cymru gan y Trysorlys
a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng
amcangyfrif y symiau
sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn esboniadol yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 15 Hydref 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4302
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried cyflwyno cynigion, gan gynnwys deddfwriaeth pan fo’n briodol, i sicrhau gwelliannau o ran trwyddedu a rheoli parciau carafannau’n effeithiol.
2. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod rhai nodweddion tebyg rhwng llety Cartrefi mewn Parciau a’r hyn a ddarperir gan barciau i garafannau sy’n gartrefi gwyliau.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod perchnogion safleoedd yn diwallu meini prawf ‘unigolion addas a phriodol’.
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y rhan bwysig y gall cymdeithasau tenantiaid ei chwarae o ran cynrychioli safbwyntiau perchnogion a thenantiaid cartrefi i berchnogion safleoedd.
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am sefydlu mecanwaith tribiwnlysoedd ar gyfer delio ag anghydfodau rhwng perchnogion safleoedd a pherchnogion cartrefi nad yw’n golygu ei bod yn rhaid defnyddio’r llysoedd.