Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 20 Tachwedd 2012
Cynigion a gyflwynwyd ar 5 Hydref 2012
NNDM5061 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â phwer i Weinidogion Cymru gynnwys cymalau machlud ac adolygu mewn is-ddeddfwriaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill documents — Enterprise and Regulatory Reform Bill 2012-13 — UK Parliament
Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Hydref 2012
Dadl Fer
NDM5075
Lynne Neagle (Tor-faen): Y Storm Berffaith
Asesu effaith gronnol diwygio lles mewn cysylltiad â thai yng Nghymru.
Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Tachwedd 2012
NDM5095 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2011-12.
Gellir gweld Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2011-12 drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://www.childcomwales.org.uk/uploads/publications/299.pdf
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 20 Tachwedd 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5095
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gan Gomisiynydd Plant Cymru gyfrifoldeb dros faterion wedi eu datganoli a materion heb eu datganoli sy’n ymwneud â phlant yng Nghymru.
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu trefniadau llywodraethu Comisiynydd Plant Cymru, ac i ystyried gwneud y Comisiynydd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn hytrach nag i’r Prif Weinidog yn unig.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod datganiad i’r wasg Comisiynydd Plant Cymru sy’n gysylltiedig ag Adroddiad Blynyddol 2011-12:
a) yn cydnabod y pryderon a fynegwyd wrth Gomisiynydd Plant Cymru nad yw rhai pobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid o ansawdd da, ac nad yw gwasanaethau ieuenctid yn cael eu gwerthfawrogi ddigon; a
b) yn galw am ymrwymiad cenedlaethol i gydnabod gwerth gwaith ieuenctid.
Mae’r datganiad i’r wasg ar gael drwy fynd i’r linc ganlynol:
http://www.complantcymru.org.uk/uploads/publications/302.pdf