Cynigion a gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 20 Tachwedd 2014
NNDM5639 Mark Isherwood (Gogledd Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu cyflawni cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylder yn y sbectrwm awtistig.
2. Yn nodi bod angen gwneud mwy i ddiwallu anghenion plant ac oedolion sydd ag awtistiaeth yng Nghymru.
3. Yn credu y byddai gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn arwain at fwy o eglurder ynghylch y gofal a'r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth ei ddisgwyl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Awtistiaeth ar gyfer Cymru.
Mae cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig ar gael yn: http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/autisticspectrumdisorderplan/?lang=cy
Cefnogwyd gan:
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)