Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 21 Chwefror 2012
Cynigion a gyflwynwyd ar 14 Chwefror 2012
NDM4915
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod y Llywodraeth yn bwriadu adolygu ei dulliau o ymdrin ag adfywio yn unol ag agenda’r Llywodraeth gyfan o fynd i’r afael â thlodi a chefnogi twf economaidd.
NDM4916
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2012-2013 (Setliad Terfynol – Awdurdodau Heddlu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2012.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 16 Chwefror 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4915
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymunedau yn Gyntaf, un o’i phrif raglenni ar gyfer adfywio cymunedol, yn dangos ei bod yn perfformio’n well drwy sicrhau bod gan y rhaglen dargedau clir, perthnasol a mesuradwy i fynd i’r afael â thlodi a bod cyllid wedi’i gyfeirio at gyrraedd y targedau hyn.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau adfywio yn canolbwyntio ar flaenoriaethau lleol sy’n atebol yn ddemocrataidd drwy gynyddu rôl cynghorau lleol yn y broses drwyddi draw.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y gall canol tref bywiog chwarae rhan bwysig i adfywio economi cymuned.
4. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod nad yw micro-reolaeth Llywodraeth Cymru o’i hagenda adfywio yn gweithio, ac y bydd rhaid i'r Trydydd Sector a’r Sector Annibynnol fod yn bartneriaid gwirioneddol o ran strategaeth a chyflenwi er mwyn sicrhau adfywio cymunedol.