Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 21 Ebrill 2010
Dadl Fer: Ni chyflwynwyd testun
Cynigion a gyflwynwyd ar 14 Ebrill 2010
NDM4456 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:
Yn credu y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gryfhau ac ymestyn y swyddogaeth sydd gan y Cyngor Partneriaeth Busnes o ran datblygu a monitro ei strategaeth economaidd.
NDM4457 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 16 Ebrill 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4456
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ac yn ei le rhoi
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn croesawu’r swyddogaeth sydd gan aelodau’r Cyngor Partneriaeth Busnes yn yr uwchgynadleddau economaidd ac wrth lunio ymateb y llywodraeth i’r dirwasgiad;
2. Yn croesawu’r gwaith ymgysylltu eang a wneir gan y llywodraeth wrth baratoi ei rhaglen o adnewyddu’r economi, ac yn edrych ymlaen at weld cyhoeddi’r rhaglen honno.
NDM4457
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru, er mwyn helpu i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf sy’n canolbwyntio ar y dinesydd, archwilio’r honiad nad yw hyd at un rhan o bump o gyllideb y GIG yn cael ei gwario’n effeithiol.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru, er mwyn helpu i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf sy’n canolbwyntio ar y dinesydd, wyrdroi ei phenderfyniad i sicrhau ‘enillion effeithlonrwydd’ yn y sector addysg ôl-16.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru, er mwyn helpu i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf sy’n canolbwyntio ar y dinesydd, wyrdroi ei phenderfyniad i ddileu’r grant ffioedd dysgu.