21/05/2008 - Cynigion dyddiad a Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 21 Mai 2008

Cynigion a gyflwynwyd ar 14 Mai 2008

Dadl Fer

NDM3936 Gareth Jones (Aberconwy): Ysgol a Chymuned

NDM3937

Mike German (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Leihau Allyriadau Carbon Preswyl yng Nghymru: Adroddiad Cyntaf ar ymchwiliad y Pwyllgor Cynaliadwyedd i Leihau Allyriadau Carbon yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mawrth 2008.

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mai 2008.   

NDM3943

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r cyfraniad y mae Addysg Uwch yn ei wneud i economi Cymru;

2. Yn nodi’r cyfraniad sylweddol y mae dysgwyr rhan amser yn ei wneud i Addysg Uwch;

3. Yn nodi â phryder bod y bwlch cyllido Addysg Uwch rhwng Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru ac yn Lloegr wedi tyfu i £61 miliwn yn ôl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:

a) rhoi sylw i’r bwlch cyllido rhwng Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru ac yn Lloegr; a

b) sicrhau bod parch cydradd ar gyfer dysgwyr rhan amser mewn Addysg Uwch, yn enwedig ym meysydd ffioedd a chefnogaeth i fyfyrwyr.

NDM3944

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Gynllunio'r Gweithlu yn y Gwasanaeth Iechyd ac ym maes Gofal Cymdeithasol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mawrth 2008.

Noder: Gosodwyd Ymateb y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mai 2008.

Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 15 Mai 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM3943

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Yn mynegi pryder ynghylch y cwymp yn nifer y ceisiadau i Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn ystod y tymor academaidd nesaf a goblygiadau hyn i’w gallu ariannol, i’w buddsoddiad mewn rhagoriaeth, a’r golled i’r economi gyffredinol yn sgil hynny.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt b)

‘egluro eu polisi ar gyfer cyllido myfyrwyr o Gymru sy'n astudio cyrsiau mewn mannau eraill yn y DU, nad ydynt ar gael yng Nghymru.'

Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 16 Mai 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM3943

1. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ym mhwynt 3, dileu ‘â phryder’.

2. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ym mhwynt 4, dileu (a) ac yn ei le rhoi: ‘ymchwilio i ddulliau arloesol o sicrhau bod cyllid yn cael ei rannu yn y modd mwyaf teg rhwng sefydliadau a myfyrwyr’

3. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cymeradwyo ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i “Datblygu dysgu ymhlith oedolion”, fel y nodir yn rhaglen Cymru’n Un.

Gellir gweld dogfen Cymru'n Un ar y ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/about/strategy/strategypublications/strategypubs/onewales/?lang=cy