21/06/2010 - Cynigion heb Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynigion a Gwelliannau i’w trafod yn y Dyfodol

Cynnig heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd ar 21 Mehefin 2010

NDM4502

Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad,  yn unol â Rheol Sefydlog 27.21, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010 -11, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Llun 21 Mehefin 2010.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 27, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  1. y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

  2. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb floc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

  3. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb floc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

  4. cysoniad rhwng amcangyfrif y symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

  5. cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

  • nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.