Cynigion a Gwelliannau i’w trafod yn y Dyfodol
Cynnig heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd ar 21 Mehefin 2011
NNDM4748 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30 , yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011-12 , a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth 21 Mehefin 2011.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb floc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb floc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng amcangyfrif y symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
NNDM4749 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn ethol Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn y Rheol Sefydlog honno.
NNDM4750 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn ethol Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn y Rheol Sefydlog honno.
NNDM4751 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn ethol Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn y Rheol Sefydlog honno.
NNDM4752 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn ethol Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn y Rheol Sefydlog honno.
NNDM4753 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn ethol Pwyllgor Menter a Busnes i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn y Rheol Sefydlog honno.
NNDM4754 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn ethol Pwyllgor Cyllid i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 19.
NNDM4755 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn ethol Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 18.
NNDM4756 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn ethol Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 22.
NNDM4757 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno bod y Pwyllgor Offerynnau Statudol a sefydlwyd ar 15 Mehefin 2011yn cael ei ailenwi y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Cylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw cyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol neu lywodraethol arall o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Gweinidogion Cymru, neu mewn perthynas â’r rheini.