Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 21 Hydref 2008
Cynigion a gyflwynwyd ar 14 Hydref 2008
NDM4037
Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Medi 2008 mewn perthynas â’r gorchymyn drafft, Gorchymyn Twbercwlosis (Profi a Phwerau Mynediad) (Cymru) 2008; a2. Yn cymeradwyo bod y gorchymyn drafft, Gorchymyn Twbercwlosis (Profi a Phwerau Mynediad) (Cymru) 2008, yn cael ei wneud yn unol ag:
a) y drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2008; a
b) y Memorandwm Esboniadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2008.
NDM4038
Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.62(i):
Yn croesawu'r cynnydd sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth y Cynulliad o ran rhoi ar waith raglen Cymru'n Un.
Gellir gweld dogfen Cymru'n Un ar y ddolen ganlynol:
h
ttp://new.wales.gov.uk/about/strategy/publications/onewales/?lang=cyGwelliannau a Gyflwynwyd ar 16 Hydref 2008
NDM4038
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod gweithrediad y rhaglen hyd yn hyn wedi methu ag ateb anghenion pobl Cymru.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod angen gwirio gweithrediad y rhaglen yn gadarn ac yn annibynnol.
3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni, nad oes modd cyflawni’r rhaglen Cymru’n Un ac y dylid ei hail-lunio er mwyn canolbwyntio ar wasanaethau craidd.