22/01/2008 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 22 Ionawr 2008

Cynigion a gyflwynwyd ar 15 Ionawr 2008

NDM3844 Andrew Davies (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.17 (i), yn cymeradwyo'r Gyllideb Derfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2008-2009, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ar  ddydd Mawrth 15 Ionawr 2008.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol a gynhwysir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 27.19, mae'r Gyllideb Derfynol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) Deddf Llywodraeth Cymru;

ii) yr adnoddau y cytunir arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrennir ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys â'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

iv) cysoniad rhwng y symiau yr amcangyfrifir y telir amdanynt i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) y Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae’r wybodaeth ychwanegol ganlynol ar gael i’r Aelodau:

  • ·copïau o dablau manwl sy’n dangos y dyraniadau i linell wariant y gyllideb a’r prif grwp gwariant

  • ·dyraniadau dangosol ar gyfer 2009-10 a 2010-11 mewn fformat sy’n gyson â Deddf Llywodraeth Cymru 2006.