Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 22 Ionawr 2013
Cynigion a gyflwynwyd ar 15 Ionawr 2013
NDM5141 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Comisiynydd Pobl Hyn ar gyfer 2011/12, y gosodwyd copi ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2013.
Gellir gweld yr adroddiad drwy glicio ar y ddolen hon:
http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs.htm?act=dis&id=242061&ds=1/2013
NDM5141 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2012.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 17 Ionawr 2013
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5141
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agosach gyda Chomisiynydd Pobl Hyn Cymru i ddatblygu’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru (Cam 3).
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu dulliau clir o fonitro urddas a gofal i bobl hyn o ganlyniad i ‘Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well – Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru’.
Gellir gweld y safonau drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://www.nhswalesgovernance.com/display/Home.aspx?a=130&s=2&m=0&d=0&p=0
3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad ‘Llais, Dewis a Rheolaeth’ i ddatblygu gwasanaeth eirioli cadarn ac annibynnol ar gyfer pobl hyn yng Nghymru.
Gellir gweld yr adroddiad drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://www.olderpeoplewales.com/wl/news/news/12-09-18/Voice_Choice_and_Control.aspx