Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 22 Chwefror 2012
Cynigion a gyflwynwyd ar 15 Chwefror 2012
Dadl Fer
NDM4917
Nick Ramsay (Mynwy): Dwr – Adfywiad Adnodd.
O gamlesi i’r arfordir, o ynni gwyrdd i gronfeydd dwr - bydd y Ddadl Fer yn tynnu sylw at rôl bwysig Dwr ym mywyd Cymru a sut y gallwn ei reoli’n well.
NDM4918 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Aflonyddu ar sail Anabledd yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2011.
NDM4919
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod:
a) yr ymrwymiad a wnaethpwyd gan aelodau’r lluoedd arfog wrth amddiffyn ein gwlad; a
b) yr effaith ddinistriol y gall anhwylder straen wedi trawma ei chael ar fywyd cyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd; a
2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydnabod pa mor annigonol yw’r gwasanaethau presennol i gyn-aelodau’r lluoedd arfog sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma; a
b) cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r cynnydd a wnaethpwyd o ran gwella gwasanaethau trin anhwylder straen wedi trawma i gyn-aelodau’r lluoedd arfog ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol i’r gwasanaethau hyn ym mis Chwefror 2011.
Nodyn: Gellir gweld adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Driniaeth ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog, Chwefror 2011, drwy fynd i:
http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-third-assembly/bus-committees/bus-committees-scrutiny-committees/bus-committees-third-hwlg-home/business-hwlg-inquiries/hwlg3-ptsd2.htm
NDM4920
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) adroddiad "All Wales Ethnic Minority Association - AWEMA" yn 2002;
b) adroddiad “All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA): Review and Evaluation Report of Equality Policy Unit (EPU) Funded Projects” yn 2004;
c) yn nodi bod cadeirydd Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn 2007 yn mynegi pryderon difrifol am drefn lywodraethu’r mudiad; a
d) adroddiad “A Review of the Effectiveness of Governance and Financial Management within the All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA)” yn 2012; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi datganiad yn amlinellu’n fanwl eu rhesymau dros barhau i gyllido AWEMA er bod pryderon cychwynnol wedi’u mynegi yn 2002, 2004 a 2007; a
b) datblygu a chyhoeddi protocol er mwyn sicrhau y caiff pryderon tebyg eu trin yn effeithiol yn y dyfodol.
Nodyn: Gall aelodau weld adroddiad 2002 “All Wales Ethnic Minority Association – AWEMA” ac adroddiad 2004 “All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA): review and Evaluation Report of Equality Policy Unit (EPU) Funded Projects” yn Llyfrgell y Cynulliad.
Mae adroddiad 2012 “A Review of the Effectiveness of Governance and Financial Management within the All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA)” ar gael drwy fynd i:
http://wales.gov.uk/docs/caecd/publications/120209finalawemareportdated8Feb.pdf
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 16 Chwefror 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4920
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
“1. Yn nodi methiant Gweinidogion i fynd i’r afael yn ddigonol â’r pryderon a godwyd gan:
a) adroddiad 2002 "All Wales Ethnic Minority Association - AWEMA";
b) adroddiad 2004 “All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA): Review and Evaluation Report of Equality Policy Unit (EPU) Funded Projects”;
c) Cadeirydd Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) a ysgrifennodd at Lywodraeth Cymru yn 2007 i fynegi pryderon difrifol am drefn lywodraethu’r sefydliad; a
2. Yn nodi ymhellach adroddiad 2012 “A Review of the Effectiveness of Governance and Financial Management within the All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA); ac
ail-rifo’r pwyntiau sy’n dilyn.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 17 Chwefror 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4919
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod mwy o achosion o anhwylder straen wedi trawma ymysg cyn-bersonél y lluoedd arfog ac yn mynegi pryder ar ôl deng mlynedd o weithredu milwrol yn Affganistan a chwe blynedd o weithredu milwrol yn Irac bod nifer yr achosion o anhwylder straen wedi trawma yn debyg o godi yn y dyfodol ac yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau mwy o gefnogaeth ar gyfer anhwylder straen wedi trawma yn y dyfodol.
2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu is-bwynt 1c newydd: “pwysigrwydd gwasanaethau arbenigol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma”
3. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu is-bwynt 2a
NDM4920
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad oedd amseru cyhoeddi adroddiad 2012:
a) wedi rhoi cyfle i Aelodau’r Cynulliad allu craffu arno ar unwaith mewn Cyfarfod Llawn; a
b) wedi rhoi cyfle i’r Gweinidog sy’n gyfrifol roi datganiad llafar brys.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Gweinidog i gyhoeddi adroddiadau 2002 a 2004 ar-lein.