Cynigion i'w Trafod yn y Dyfodol
Cynnig a gyflwynwyd ar 22 Mawrth 2017
NNDM6277 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig am fil cerbydau cyhoeddus gwyrdd
2. Diben y bil hwn fydd:
a) hybu'r defnydd o gerbydau trydan neu gerbydau dim-allyriadau yng Nghymru er mwyn helpu i leihau allyriadau carbon; a
b) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i lunio strategaeth i symud tuag at ddefnyddio cerbydau trydan neu gerbydau dim-allyriadau yn y fflyd gyhoeddus yng Nghymru.