Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 22 Ebrill 2008
Cynigion a gyflwynwyd ar 15 Ebrill 2008
NDM3912
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Nodi’r ymgynghoriad ar Strategaeth Pysgodfeydd Cymru sy’n anelu at sicrhau diwydiant pysgota hyfyw a chynaliadwy i Gymru.
Mae copi o’r dogfen ymgynghoriad ar gael yma:
h
ttp://wales.gov.uk/consultation/epc/2007consultationdocs/061207
welshfisheriesstrat/Welshfisheriesstrat061207.pdf?lang=en
NDM3913
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Nodi'r bod Adroddiad yr Adolygiad Annibynnol o'r Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal, fel y'i comisiynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Tachwedd 2006, wedi cael ei gyhoeddi.
Danfonwyd copi o`r Adroddiad i Aelodau ar 15 Ebrill 2008.
Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 16 Ebrill 2008
NDM3913
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i amlinellu sut y bydd yn gweithredu'r argymhellion yn yr Adroddiad.
Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 17 Ebrill 2008
NDM3912
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu at ddiwedd y cynnig:
Yn ceisio sicrwydd na fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyflwyno Trwyddedau Genweirio Môr fel rhan o Strategaeth Pysgodfeydd Cymru.
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu at ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau y caniateir i ddulliau pysgota hanesyddol a thraddodiadol, megis Pysgota â Rhwydi Gafl, barhau.